{"title":"Trawsffurfiadau Gwyn ap Nudd: O Lenyddiaeth Ganoloesol i Gredoau Neo-Baganaidd (The Transformations of Gwyn ap Nudd)","authors":"Angelika Heike Rüdiger","doi":"10.54586/huqz3655","DOIUrl":null,"url":null,"abstract":"Mae nodweddion cymeriadau sy’n cael eu defnyddio mewn rhyddiaith a barddoniaeth am gryn amser wrth gwrs yn newid wrth i’r hanesion gael eu hailadrodd. Bydd y trawsffurfiadau hyn yn amlhau pan fo’r traddodiadau llafar a llenyddol yn effeithio ar ei gilydd, ac mae cymeriad Gwyn ap Nudd (brenin Annwn a brenin y Tylwyth Teg) yn perthyn i’r categori hwn. Mae Gwyn i’w weld yn y traddodiadau rhyddiaith a barddoniaeth o’r canol oesoedd (Bartrum 1993: 351; Foster 1953; Roberts 1980/81; Rüdiger 2012). Ac yntau wedi ei fabwysiadu gan y mudiad neo-Baganaidd yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, caiff ei ddefnyddio mewn credoau sy’n dehongli cymeriadau canoloesol Cymraeg fel hen dduwiau neu dduwiesau (Hutton 1999: 192; Rüdiger 2012: 68-77). Eto, ysgolheigion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd bennaf gyfrifol am ysgogi’r datblygiad hwn sy’n priodoli ystyr newydd i’r cymeriadau. Creffir yn yr ysgrif hon ar y datblygiadau hyn yng nghymeriad Gwyn ap Nudd, o’r testunau hynaf, trwy waith John Rhŷs, hyd Robert Graves a Gerald Gardner a’r credoau neo-Baganaidd.","PeriodicalId":370965,"journal":{"name":"Studia Celto-Slavica","volume":"26 1","pages":"0"},"PeriodicalIF":0.0000,"publicationDate":"1900-01-01","publicationTypes":"Journal Article","fieldsOfStudy":null,"isOpenAccess":false,"openAccessPdf":"","citationCount":"0","resultStr":null,"platform":"Semanticscholar","paperid":null,"PeriodicalName":"Studia Celto-Slavica","FirstCategoryId":"1085","ListUrlMain":"https://doi.org/10.54586/huqz3655","RegionNum":0,"RegionCategory":null,"ArticlePicture":[],"TitleCN":null,"AbstractTextCN":null,"PMCID":null,"EPubDate":"","PubModel":"","JCR":"","JCRName":"","Score":null,"Total":0}
引用次数: 0
Abstract
Mae nodweddion cymeriadau sy’n cael eu defnyddio mewn rhyddiaith a barddoniaeth am gryn amser wrth gwrs yn newid wrth i’r hanesion gael eu hailadrodd. Bydd y trawsffurfiadau hyn yn amlhau pan fo’r traddodiadau llafar a llenyddol yn effeithio ar ei gilydd, ac mae cymeriad Gwyn ap Nudd (brenin Annwn a brenin y Tylwyth Teg) yn perthyn i’r categori hwn. Mae Gwyn i’w weld yn y traddodiadau rhyddiaith a barddoniaeth o’r canol oesoedd (Bartrum 1993: 351; Foster 1953; Roberts 1980/81; Rüdiger 2012). Ac yntau wedi ei fabwysiadu gan y mudiad neo-Baganaidd yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf, caiff ei ddefnyddio mewn credoau sy’n dehongli cymeriadau canoloesol Cymraeg fel hen dduwiau neu dduwiesau (Hutton 1999: 192; Rüdiger 2012: 68-77). Eto, ysgolheigion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd bennaf gyfrifol am ysgogi’r datblygiad hwn sy’n priodoli ystyr newydd i’r cymeriadau. Creffir yn yr ysgrif hon ar y datblygiadau hyn yng nghymeriad Gwyn ap Nudd, o’r testunau hynaf, trwy waith John Rhŷs, hyd Robert Graves a Gerald Gardner a’r credoau neo-Baganaidd.