{"title":"Sut y dylem addysgu pobl mewn cymdeithas ddemocrataidd?","authors":"Nadene Mackay","doi":"10.16922/wje.p1","DOIUrl":null,"url":null,"abstract":"Gan bwyso ar ddamcaniaeth addysg Dewey a’i ddealltwriaeth o ddemocratiaeth, mae’r traethawd hwn yn ceisio ateb y cwestiwn o sut y dylem addysgu pobl mewn cymdeithas ddemocrataidd. Wrth flaenoriaethu bywyd a hawliau’r plentyn fel hanfod a nod hollgynhwysol addysg mewn cymdeithas ddemocrataidd (Dewey 2010, t. 16), mae’r traethawd hwn yn dadlau bod yn rhaid i brofiad y plentyn o fywyd democrataidd y tu mewn a’r tu allan i ystafell ddosbarth yr ysgol gysylltu. At hynny, wrth addysgu pobl mewn cymdeithas ddemocrataidd, anogir dull blaengar gan yr holl randdeiliaid addysg sy’n galluogi delfrydau democrataidd megis parch, cydraddoldeb, galluogedd a chyfiawnder i gael eu hamlygu trwy adeiladwaith bywyd ysgol, gan dreiddio i arweinyddiaeth a threfn yr addysgu, i gynllunio’r cwricwlwm, arferion addysgegol a threfniadau asesu. Ar y llaw arall, mae’r traethawd hwn yn gwrthod goruchafiaeth dylanwadau hanfodwyr a bytholwyr sy’n hyrwyddo arferion addysgegol o ddominyddir gan athrawon a chwricwla difflach fel rhwystrau i newid cadarnhaol sy’n methu â chydnabod natur, gwerth a phrofiad bywyd unigol y plentyn, ac felly’n mygu datblygiad dilys.","PeriodicalId":373832,"journal":{"name":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","volume":"7 1","pages":"0"},"PeriodicalIF":0.0000,"publicationDate":"2023-04-19","publicationTypes":"Journal Article","fieldsOfStudy":null,"isOpenAccess":false,"openAccessPdf":"","citationCount":"0","resultStr":null,"platform":"Semanticscholar","paperid":null,"PeriodicalName":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","FirstCategoryId":"1085","ListUrlMain":"https://doi.org/10.16922/wje.p1","RegionNum":0,"RegionCategory":null,"ArticlePicture":[],"TitleCN":null,"AbstractTextCN":null,"PMCID":null,"EPubDate":"","PubModel":"","JCR":"","JCRName":"","Score":null,"Total":0}
引用次数: 0
Abstract
Gan bwyso ar ddamcaniaeth addysg Dewey a’i ddealltwriaeth o ddemocratiaeth, mae’r traethawd hwn yn ceisio ateb y cwestiwn o sut y dylem addysgu pobl mewn cymdeithas ddemocrataidd. Wrth flaenoriaethu bywyd a hawliau’r plentyn fel hanfod a nod hollgynhwysol addysg mewn cymdeithas ddemocrataidd (Dewey 2010, t. 16), mae’r traethawd hwn yn dadlau bod yn rhaid i brofiad y plentyn o fywyd democrataidd y tu mewn a’r tu allan i ystafell ddosbarth yr ysgol gysylltu. At hynny, wrth addysgu pobl mewn cymdeithas ddemocrataidd, anogir dull blaengar gan yr holl randdeiliaid addysg sy’n galluogi delfrydau democrataidd megis parch, cydraddoldeb, galluogedd a chyfiawnder i gael eu hamlygu trwy adeiladwaith bywyd ysgol, gan dreiddio i arweinyddiaeth a threfn yr addysgu, i gynllunio’r cwricwlwm, arferion addysgegol a threfniadau asesu. Ar y llaw arall, mae’r traethawd hwn yn gwrthod goruchafiaeth dylanwadau hanfodwyr a bytholwyr sy’n hyrwyddo arferion addysgegol o ddominyddir gan athrawon a chwricwla difflach fel rhwystrau i newid cadarnhaol sy’n methu â chydnabod natur, gwerth a phrofiad bywyd unigol y plentyn, ac felly’n mygu datblygiad dilys.