{"title":"Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu a lles yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen","authors":"Alyson Lewis, A. Thomas","doi":"10.16922/wje.23.1.3","DOIUrl":null,"url":null,"abstract":"Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn y maes addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) yn cael ei flaenoriaethu’n rhyngwladol. Mae’r flaenoriaeth hon yn bwysig, yn enwedig pan mae disgwyl i ymarferwyr yng Nghymru weithredu newidiadau uchelgeisiol i’r cwricwlwm. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau dwy astudiaeth PhD, un yn archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu ac un arall yn archwilio lles. Canfu dair nodwedd gyffredin: yn gyntaf, dealltwriaeth gyfyngedig o sgemâu a lles ymhlith rhai ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc; yn ail, dealltwriaeth gyfyngedig o sut i adnabod a chefnogi sgemâu a hybu lles mewn ymarfer yn yr ystafell ddosbarth; ac yn drydydd, diffyg eglurder yng nghanllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru ynghylch sgemâu a lles. Mae’r erthygl hon yn trafod goblygiadau’r nodweddion cyffredin hyn i blant ac ymarfer, gweithredu’r cwricwlwm ac ymchwil. Ymhellach, mae’n awgrymu pe bai gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o sgemâu a lles, gallai hyn eu helpu i ailfeddwl a thrawsnewid eu hymarfer. Mae’r papur hwn yn dadlau dros bwysigrwydd datblygiad proffesiynol cydweithredol a myfyrio beirniadol ar gyfer ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yng ngoleuni’r newid yn y cwricwlwm.","PeriodicalId":373832,"journal":{"name":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","volume":"33 4 1","pages":"0"},"PeriodicalIF":0.0000,"publicationDate":"2021-07-30","publicationTypes":"Journal Article","fieldsOfStudy":null,"isOpenAccess":false,"openAccessPdf":"","citationCount":"0","resultStr":null,"platform":"Semanticscholar","paperid":null,"PeriodicalName":"Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education","FirstCategoryId":"1085","ListUrlMain":"https://doi.org/10.16922/wje.23.1.3","RegionNum":0,"RegionCategory":null,"ArticlePicture":[],"TitleCN":null,"AbstractTextCN":null,"PMCID":null,"EPubDate":"","PubModel":"","JCR":"","JCRName":"","Score":null,"Total":0}
Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu a lles yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen
Mae dysgu a datblygiad proffesiynol yn y maes addysg a gofal plentyndod cynnar (ECEC) yn cael ei flaenoriaethu’n rhyngwladol. Mae’r flaenoriaeth hon yn bwysig, yn enwedig pan mae disgwyl i ymarferwyr yng Nghymru weithredu newidiadau uchelgeisiol i’r cwricwlwm. Mae’r papur hwn yn archwilio canfyddiadau dwy astudiaeth PhD, un yn archwilio gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferwyr o sgemâu ac un arall yn archwilio lles. Canfu dair nodwedd gyffredin: yn gyntaf, dealltwriaeth gyfyngedig o sgemâu a lles ymhlith rhai ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant ifanc; yn ail, dealltwriaeth gyfyngedig o sut i adnabod a chefnogi sgemâu a hybu lles mewn ymarfer yn yr ystafell ddosbarth; ac yn drydydd, diffyg eglurder yng nghanllawiau cwricwlwm Llywodraeth Cymru ynghylch sgemâu a lles. Mae’r erthygl hon yn trafod goblygiadau’r nodweddion cyffredin hyn i blant ac ymarfer, gweithredu’r cwricwlwm ac ymchwil. Ymhellach, mae’n awgrymu pe bai gan ymarferwyr ddealltwriaeth gadarn o sgemâu a lles, gallai hyn eu helpu i ailfeddwl a thrawsnewid eu hymarfer. Mae’r papur hwn yn dadlau dros bwysigrwydd datblygiad proffesiynol cydweithredol a myfyrio beirniadol ar gyfer ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr yng ngoleuni’r newid yn y cwricwlwm.